
Grantiau
Gwnewch Gais am Grant
Pwy ydym ni
Gweledigaeth BBC Plant mewn Angen yw bod plant a phobl ifanc yn y DU yn cael plentyndod diogel, hapus a chysurus a chael y cyfle i gyrraedd e potensial.
Ein rôl ni wrth gyflawni’r weledigaeth hon yw rhoi grantiau i elusennau a mudiadau di-elw eraill sy’n cefnogi ac yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd dan anfantais, ac sy’n wynebu heriau yn eu bywydau.
Bydd y bobl a’r prosiectau rydyn ni’n eu hariannu yn:
- Barod i achub y blaen a dangos yn glir sut byddan nhw’n gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc.
- Mynd i’r afael â’r heriau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, cynyddu eu sgiliau a’u gwytnwch, eu grymuso ac ymestyn eu dewisiadau o ran eu bywydau.
- Cynnwys plant a phobl ifanc yng nghamau cynllunio, darparu a gwerthuso eu gwaith.
- Awyddus i barhau i ddysgu am eu gwaith fel bod eu gallu i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc yn parhau i wella.
Cysylltu â’r tîm grantiau
Os oes gennych gwestiwn yn ymwneud â’n rhaglenni Grantiau, ac nad yw’r ateb yn ein hadran canllawiau Grant, cysylltwch â ni.